Cysylltu
Cysylltwch â ni drwy e-bost post@sail.cymru os ydach chi am ein helpu i gefnogi ein cymunedau.
Os ydach chi yn unigolyn – croeso i chi ddysgu mwy am be ydan ni’n ei wneud. Gallwch gyfrannu mewn sawl ffordd – syniadau, bod yn rhan o waith cymunedol yn eich ardal, hyd yn oed cychwyn menter newydd. Mae gan ein haelodau brofiad allai fod o gymorth i chi.
Os ydach chi’n rhan o brosiect neu gorff cymunedol – mae croeso i chi ddweud wrthym be ydach chi’n ei wneud. Bydd cydweithio efo pobl debyg i chi mewn ardaloedd eraill yn ein cryfhau ni i gyd.
Os ydach chi’n gweithio yn y sector gyhoeddus – byddwn yn croesawu trafodaeth am be ydach chi’n ei wneud mewn cymunedau.
Os ydach chi’n gynghorydd – mi ydan ni yn awyddus i drafod efo chi sut i ddatblygu ein cymunedau yn gynaliadwy.