Wedi cael llond bol ar bethau fel mae nhw? Pobl ifanc yn gadael a methu fforddio tai, diffyg gwaith, tlodi – ‘does na ddim diwedd iddi! Beth am edrych ar bethau mewn ffordd wahanol? Creu gwaith, cadw arian yn yr ardal, anwylo’r amgylchedd, creu cymunedau sy’n wydn ac yn llefydd da i fyw. Adeiladu o sylfeini ein cymunedau. Mae yna ddigon i wneud i chi feddwl yma!
Mae modd i ni yng Ngwynedd a Môn ddysgu gan rai o’n cymunedau ni yma a gan rai eraill ledled y byd sy’n cefnogi eu pobl nhw eu hunain. Dechrau efo un cynllun ac yna adeiladu fesul tipyn. A mae o’n fodel sy’n medru gweithio! Gallwch weld be sy’n digwydd yn barod, a dychmygu faint gwell fasa pethau efo cefnogaeth go iawn gan Gynghorau a Llywodraeth. Darllenwch ymlaen yma!
Isio cyfrannu at y sgwrs? Mi fasa’n dda clywed gennych chi. Gwynedd a Môn ydi cylch ein gwaith, ond mae croeso i chi gysylltu o lefydd eraill hefyd. Ella fod eich cymuned chi yn gweithredu – gadewch i ni wybod, a rhannu profiadau. Ella eich bod yn unigolyn, neu’n rhan o gymdeithas neu grŵp gwirfoddol yn eich cymuned – gallwch chithau gynnig.
Crynodeb
- Pobl sy efo ffydd yn ein cymunedau yng Ngwynedd a Môn.
- Mae pob un ohonom yn weithgar mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn ein cymunedau.
- Pobl sy’n credu y gall y Gymuned Sylfaenol fod yn sail i ddyfodol llewyrchus.
- Mi ydan ni’n credu fod cymuned yn bwysig i bobol.
- Mi ydan ni’n gwybod fod mentrau cymunedol yn llwyddo.
- Mi ydan ni’n credu mewn llusogi mentrau cymunedol er mwyn creu cymunedau iach a gwydn.
- Mi ydan ni’n credu fod modd cadw arian o fewn ein cymunedau.
- Mi ydan ni’n gresynu at effeithiau’r toriadau enbyd o du’r Llywodraethau a Chynghorau.
- Mi ydan ni’n chwilio am ffyrdd i oresgyn y problemau sy’n wynebu’r Stryd Fawr.
- Mi ydan ni am i’n hieuenctid fedru gweithio yn eu hardaloedd mewn tai y gallan nhw ei fforddio.
- Mi ydan ni am weld blaenoriaeth i ymladd newid hinsawdd.
- Dydan ni ddim yn credu yn yr hen batrwm o ddisgwyl achubiaeth gan gwmnïau mawrion.
- Dydan ni ddim am weld adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu ar yr un hen strategaeth.
- Dangos i bobol fod gwerth i’w cymunedau fel sail ar gyfer y dyfodol.
- Dangos sut y medrwn yn lleol fanteisio ar syniadau blaengar o weddill Cymru ac o weddill y byd.
- Dangos sut mae’r gyfalafiaeth a gynigir i’n hachub mewn gwirionedd wedi methu’n drychinebus ar sawl lefel.
- Dangos fod modd i gymunedau feddwl yn greadigol a gwahanol er mwyn adfer rheolaeth leol.
- Dangos nad ydi cynlluniau swyddogol ddim yn cynnig atebion digonol.
- Dangos i wleidyddion sut y medran nhw gefnogi ein cymunedau yn llawer gwell.
- Dechrau sgwrs adeiladol efo pawb sy efo diddordeb yn ffyniant ein cymunedau, a chynnig ffyrdd o ddysgu y naill oddi wrth y llall.
Medrwch! Os ydach chi’n unigolyn neu fudiad efo diddordeb yna cysylltwch efo ni drwy e-bost.